Fy Iesu, Pen-tywysog nef,
Nid oes gyffelyb iddo ef;
Cael huno yn ei gariad drud
Sydd fil o weithiau'n
well na'r byd.
Mae ei law aswy fawr ei grym
O dan fy mhen, nid ofnaf ddim;
Ei ddeheu law sy'n fy mawrhau
A phob cysuron pur didrai.
Ei bresennoldeb sydd yn dod
I mi â'r pleser mwya' erioed;
Ei allu mawr a'i gariad drud
Sydd yn gymdeithion i mi o hyd.
Wel, dyma f'enaid wedi dod
I'r man dymunais
ganwaith fod,
I gael mwynhâd o'i gariad ef,
Arfaethwyd cyn sylfaenu'r nef.
O groesaw! groesaw, nefol rodd,
'Does arall bellach wrth fy modd,
Ond cael bod yn dy freichiau mwy,
A chanu am dy farwol glwy'.
William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir; Yr Oen a laddwyd ydw rhan |
My Jesus, the Chief-prince of heaven,
There is nothing comparable to him;
To get to sleep in his precious love
Is a thousand of times
better than the world.
His left hand of great force is
Under my head, I shall fear nothing;
His right hand is magnifying me
With every pure, unebbing comfort.
His presence is bringing
Me the greatest pleasure ever;
His great power and his precious love
Are companions for me always.
See, here my soul has come
To the place I desired
a hundred times to be,
To get an enjoyment of his love,
Planned before the founding of heaven.
O welcome! welcome! heavenly gift,
There is nothing further to my delight,
But to get to be in thy arms evermore,
And sing about thy mortal wound.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|